Mae'r dudalen hon yn cynnwys ein datganiad hygyrchedd gwefan. Mae hefyd yn amlinellu'r gwasanaethau hygyrchedd rydym yn eu darparu.
Defnyddio’r wefan hon
Rheolir y wefan hon gan Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ac fe'i cynlluniwyd i fod yn gydnaws ag ystod o feddalwedd cynorthwyol, gan gynnwys darllenwyr sgrîn megis JAWS a NVDA, a meddalwedd adnabod llais. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrîn
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Y Comisiwn Iaith Blaen
Ein nod yw gwneud testun ein gwefan mor syml ac uniongyrchol â phosibl. Er mwyn helpu i gefnogi ein hymrwymiad i gyfathrebu clir, rydym yn aelod o'r Comisiwn Iaith Blaen.
Help i newid gosodiadau eich cyfrifiadur
Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud ar eich cyfrifiadur i wneud tudalennau gwe’n fwy hygyrch. Er enghraifft, gallwch:
- chwyddo’ch sgrîn
- newid maint a lliw’r testun
- gwneud eich llygoden yn haws i’w defnyddio
- defnyddio darllenwyr sgrîn a phorwyr siarad
Gwefan arall sy'n rhoi gwybodaeth hygyrchedd dda yw AbilityNet.
Datganiad hygyrchedd ein gwefan
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn cynnwys y gwefannau a'r is-barthau canlynol:
- https://www.financial-ombudsman.org.uk
- https://sme.financial-ombudsman.org.uk
- https://cmc.financial-ombudsman.org.uk
- https://help.financial-ombudsman.org.uk/
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Setiau data hŷn wedi’u sefydlu. Ar hyn o bryd ni allwn eu gwneud yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr sy'n llywio trwy fysellfwrdd, ac arwyddnodi/labelu tablau a siartiau i gynorthwyo defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
- Nid yw rhai o'n dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenwyr sgrîn.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 oherwydd yr eithriadau a restrir isod.
Ein cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
Baich anghymesur
Rydym yn defnyddio Microsoft PowerBI i gyflwyno rhai o'r setiau data hŷn ar ein gwefan. Yn benodol, ein data blynyddol a’n data amrywiaeth a chynhwysiant. Nid yw’r setiau data hŷn hyn yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr sy'n llywio trwy fysellfwrdd, ac ni allwn arwyddnodi tablau a siartiau i gynorthwyo defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Fodd bynnag, mae setiau data a gyhoeddwyd yn fwy diweddar yn defnyddio offeryn gwahanol. Rydym yn y broses o newid cyflwyniad ein holl ddata, a bydd ein cyfres nesaf o setiau data blynyddol ar gael gan ddefnyddio’r offeryn delweddu data gwahanol. Rydym yn credu y byddai gwneud hyn yn gynt yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.
Yn y cyfamser, mae ffeiliau CSV neu XLS ar gael fel dewis arall, i ganiatáu i bobl lawrlwytho ein data hanner blwyddyn mewn fformat hygyrch. Ar gyfer ein data blynyddol a data amrywiaeth, gellir sicrhau eu bod ar gael mewn fformatau arall, cysylltwch â’n tîm rhanddeiliaid a byddwn yn hapus i roi’r wybodaeth hon.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os bydd angen gwybodaeth arnoch ynghylch y wefan hon mewn fformat gwahanol, megis recordio sain, print bras neu braille, e-bostiwch ein tîm hygyrchedd neu ffoniwch ni ar 0800 023 4567 – byddwn yn gwneud ein gorau i gwrdd â’ch anghenion.
Dweud am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau na restrir ar y dudalen hon neu eich bod yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â’n tîm rhanddeiliaid.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan
Mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn ymrwymo y bydd yn gwneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 y Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2)
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ym mis Medi 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ym mis Medi 2020.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Tachwedd 2019. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol. Cynhaliwyd profion defnyddioldeb ganddynt gyda thîm o ddefnyddwyr anabl, a phrofwyd ein gwefan gan ddefnyddio nifer o offer archwilio technegol. Profwyd pob agwedd o’n gwefan.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd 2018 y Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) (y ‘rheoliadau hygyrchedd’.) Os na fyddwch yn hapus â’r modd y byddwn yn ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Ymgynghori a Chefnogi Cydraddolddeb (EASS).
Bar offer hygyrchedd Recite Me
Mae ReciteMe ar gael i’w ddefnyddio ar ein gwefan. Mae’n caniatáu i chi addasu ein safle mewn modd sy’n gweithio i chi. Mae’n cynnig dewis o offer hygyrchedd megis darllenydd sgrîn, cyfieithiadau ac opsiynau arddangos.
Ein gwasanaethau hygyrchedd
Mae ein gwasanaeth ar gyfer pawb sydd angen ein help i ddatrys anghydfodau ariannol.
Pan fyddwch yn cysylltu â ni neu’n defnyddio ein gwasanaeth, gallwn ddarparu gwybodaeth mewn fformatau gwahanol ac addasu’r modd rydym yn cyfathrebu â chi - gan ddibynnu ar eich anghenion. Er enghraifft, gallwn ddefnyddio Braille, print bras, papur neu gefndir lliw, CDs sain a ffeiliau cyfryngau, a gallwn wneud a derbyn galwadau gan ddefnyddio Tex Relay neu ein gwasanaeth trosglwyddo Iaith Arwyddion Prydain.
Os bydd angen gwybodaeth arnoch gennym, neu gan y wefan hon, mewn fformat gwahanol, megis recordio sain, print bras neu braille, e-bostiwch ni neu ffoniwch ni ar 0800 023 4567 gyda manylion eich rhif cyfeirnod achos - byddwn yn gwneud ein gorau i gwrdd â’ch anghenion.
Gallwch ddysgu mwy am sut y gallwn addasu ein gwasanaeth i gwrdd â’ch anghenion yn y wybodaeth isod.