P’un ai a ydych yn gwsmer sydd â chwyn neu’n fusnes sy’n trafod cwyn, ein nod yw darparu gwasanaeth gwych i chi fel cwsmer.
Yr hyn a allwch ei ddisgwyl gennym
Byddwn bob amser yn ceisio:
- ymchwilio’n deg a gwrando ar y ddwy ochr
- rhoi ein hateb i chi mor gyflym â phosibl
- esbonio pethau’n eglur a gadael i chi wybod lle ’ydych yn sefyll
- cwrdd â’ch anghenion cyfathrebu a hygyrchedd
Sut rydym yn cadw ansawdd ein gwasanaeth
Ein nod yw cadw safon uchel o ansawdd ynghylch sut rydym yn trafod cwynion. Mae ein hymchwilwyr yn gweithio’n agos â’n hombwdsmyn, sy’n eu cefnogi â gwybodaeth a phrofiad arbenigol o ddod o hyd i atebion teg i gwynion. Ac mae ein hombwdsmyn yn gweithio gyda’i gilydd mewn grwpiau arfer proffesiynol i sicrhau eu bod yn gyson yn eu syniadau a dull.
Mae ein rheolwyr ac ombwdsmyn yn sicrhau ansawdd dydd i ddydd ein gwaith achos. Maent yn adolygu ein cyswllt â chwsmeriaid a busnesau i sicrhau ein bod wedi:
- gwrando a gofalu
- mynd i’r afael â’r materion a defnyddio synnwyr cyffredin
- bod yn eglur a gonest
Rydym yn defnyddio’r gwiriadau hyn i roi adborth i’n timau gwaith achos, ac i fesur pa mor dda rydym yn perfformio fel gwasanaeth. Rydym hefyd yn cynnal adolygiadau chwarterol o’n gwaith achos, gan nodi materion a thueddiadau sy’n ailddigwydd fel ein bod yn gallu dysgu a gwella.
Cwynion am ein gwasanaeth
Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw dysgu o ble mae pethau wedi mynd o’u lle. Ac rydym yn dymuno gwneud hyn ar gyfer ein gwasanaeth hefyd, fel ein bod yn gallu gwella’r hyn a wnawn yn y dyfodol. Dyna pam mae gennym ein gweithdrefn ein hunain ar gyfer edrych ar gwynion am ein gwasnaeth i gwsmeriaid.
Os byddwch yn cwyno wrthym am y gwasanaeth rydym wedi’i roi i chi, byddwn yn gyntaf yn ceisio datrys y broblem ein hunain. Ond os na fyddwn yn gallu, mae gennym aseswr annibynnol a fydd yn adolygu’r gŵyn yn ddiduedd ac yn argymell yr hyn sydd angen i ni ei wneud i gywiro pethau.
Bydd ein haseswr annibynnol yn cyflwyno adroddiad blynyddol am y cwynion maent yn eu derbyn i’n gweithrediaeth a bwrdd.
Dysgwch sut i gwyno am ein gwasanaeth i gwsmeriaid.
Gwrthdaro buddiannau
Gwrthdaro buddiannau yw pan fydd barn neu gamau gweithredu rhywun yn y gwaith yn, neu’n gallu, cael eu heffeithio gan rywbeth nad yw’n gysylltiedig â’u rôl.
Ein gwaith yw bod yn annibynnol a diduedd, felly rydym yn cymryd camau gweithredol i sicrhau na fydd gwrthdaro buddiannau’n codi.
Rydym yn disgwyl i’n holl staff ddweud wrthym cyn gynted ag y byddant yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau a allai godi, neu a ystyrir a fydd yn codi, i wrthdaro buddiannau. Os bydd aelod o staff yn trafod cwyn lle ceir gwrthdaro buddiannau posibl, byddwn yn trosglwyddo’r gŵyn i rywun arall yn syth. Rydym yn nodi ein dull mewn mwy o fanylder yn ein polisi gwrthdaro buddiannau.
Sut rydym yn trafod ymddygiad afresymol
Rydym yn cydnabod y gall materion ynghylch cwynion fod yn llawn straen ac annifyr - ond mae ein staff bob amser yn haeddu cael eu trin â chwrteisi a pharch. Ni fyddwn yn caniatáu ymddygiad treisgar, amharchus na bygythiol tuag at ein staff. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwn yn penderfynu cymryd camau gweithredu ychwanegol. Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei ystyried fel ymddygiad afresymol a’r camau gweithredu y gallem eu cymryd ar ein polisi ymddygiad afresymol.
Ein hegwyddorion sicrhau ansawdd
Our quality assurance principles
pdf (293 KB)