Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi dod â’ch achos atom.
Pan fyddwch yn dod â’ch cwyn atom – ac rydym wedi sicrhau ei bod yn rhywbeth y gallwn helpu yn ei chylch – cyflwynir trafodwr achosion i chi i edrych ar eich cwyn.
Bydd eich trafodwr achos yn:
- gofyn i’r busnes am eu hochr nhw o’r stori
- pwyso a mesur y ffeithiau ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd, yn deg ac yn ddiduedd
- dweud wrthych chi a’r busnes yr hyn rydym yn ei feddwl mewn asesiad cychwynnol
Os byddwn yn meddwl bod camddealltwriaeth yn unig wedi digwydd - neu nad ydych wedi bod ar eich colled yn ariannol - byddwn yn esbonio pam. Ond os byddwn yn penderfynu eich bod wedi'ch trin yn annheg, byddwn yn dweud wrth y busnes am yr hyn rydym yn meddwl y dylai wneud i gywiro pethau. Rydym yn gallu datrys y rhan fwyaf o gwynion yn y modd hwn. Ond os na fyddwch chi, neu’r busnes, yn cytuno â’r asesiad cychwynnol, gall y naill barti neu’r llall ofyn am benderfyniad terfynol gan ombwdsmon.
Cychwyn arni
Pan fyddwch yn cysylltu â ni mae’n bosibl y bydd trafodwr achos yn ymgymryd â’ch achos yn syth. Ar adegau eraill bydd angen i ni ddod o hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer eich cwyn, a byddant yn cysylltu pan fyddant yn barod i ymchwilio iddi. Y naill ffordd neu’r llall, bydd eich trafodwr achos yn cyflwyno’i hun ac yn gofyn i chi am unrhyw beth pwysig nad ydych wedi’i roi i ni’n barod - megis copi o'r ymateb terfynol a anfonodd y busnes atoch.
Bydd hefyd yn cysylltu â’r busnes - naill ai i gael eu hochr o’r stori, neu i roi cyfle iddynt edrych ar eich cwyn os nad ydynt wedi gwneud yn barod.
Ar ôl i ni glywed gan y busnes, byddwn yn edrych ar yr holl wybodaeth sydd gennym. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am ragor o fanylion gennych chi neu’r busnes, neu efallai byddwch yn dymuno rhoi rhagor o wybodaeth i ni edrych arni.
Sut byddwn yn cyfathrebu â chi
Byddwn fel arfer yn trefnu pethau ar y ffôn ac yn ysgrifenedig – felly ni fyddwn yn gofyn i chi drafod eich cwyn wyneb yn wyneb. Byddwn yn eglur a gonest yn y modd rydym yn cyfathrebu ac ni fyddwn yn defnyddio jargon.
Gallwn hefyd gyfathrebu â chi gan ddefnyddio pethau fel testun mawr, Braille, Iaith Arwyddion Prydain neu Destun y Genhedlaeth Nesaf. Dysgwch fwy am sut rydym yn gwneud ein gwasanaeth yn hygyrch i gwsmeriaid ag anghenion ychwanegol.
Byddwn yn eich diweddaru am eich achos tra’n bod yn ymchwilio i bethau, a gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg os oes unrhyw gwestiynau gennych.
Dweud wrthych yr hyn rydym yn ei feddwl
Pan fyddwn wedi adolygu popeth rydych chi a’r busnes wedi dweud wrthym, byddwn yn eich hysbysu a ydym yn meddwl bod y busnes wedi’ch trafod yn deg neu beidio. Byddwn bob amser yn esbonio’r rhesymau’r tu ôl i’n hasesiad cychwynnol. Os byddwn yn meddwl bod y busnes wedi’ch trin yn annheg, byddwn yn dweud am yr hyn sydd angen iddynt ei wneud i gywiro pethau
Mae gennych chi yn ogystal a’r busnes gyfle i gytuno neu anghytuno â’r hyn a argymhellwyd gennym. Ar yr adeg hon, os byddwch chi a’r busnes yn cytuno â’r hyn rydym wedi’i ddweud, mae'r gŵyn wedi’i datrys. Mae’r rhan fwyaf o achosion rydym yn eu gweld wedi’u datrys ar yr adeg hon.
Mae’n bosibl y gofynnir i chi gadarnhau eich bod yn derbyn unrhyw iawndal a argymhellir gan y trafodwr achos mewn taliad llawn a therfynol ynghylch eich cwyn. Gall derbyn unrhyw iawndal mewn taliad llawn a therfynol olygu na fyddwch yn gallu mynd â’r mater i’r llys ar gyfer yr un gŵyn. Efallai y byddwch yn dymuno ystyried cael cyngor cyfreithiol annibynnol os byddwch yn ansicr am dderbyn.
Os byddwch yn anghytuno â’r hyn a ddywedwyd gennym - a bod rhagor o wybodaeth gennych rydych yn tybio fydd yn newid eich asesiad - rhowch wybod i ni. Mae’n bosibl y gallem newid ein barn, neu gallai aros yr un fath - byddwn yn dweud wrthych y naill ffordd neu’r llall.
Mynd â’ch cwyn yn bellach
Os na fyddwch chi neu’r busnes yn dymuno derbyn yr hyn a ddywedwyd gennym, gallwch ofyn i’ch achos gael ei gyfeirio at ombwdsmon.
Bydd yr ombwdsmon wedyn yn edrych ar holl fanylion eich cwyn o’r newydd, a gwneud penderfyniad terfynol.
Os byddwch yn derbyn penderfyniad yr ombwdsmon, mae’n rhaid i’r busnes wneud yr hyn a ddywedodd yr ombwdsmon wrthynt ei wneud. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys gorfodi’r busnes i dalu iawndal i chi.
Os na fyddwch yn dymuno derbyn penderfyniad yr ombwdsmon nid oes rhaid i chi. Ond mae’n golygu na fydd rhan gennym bellach yn yr achos ac nad oes angen i’r busnes wneud dim. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y busnes o hyd, ond ni fydd rhan gennym yn hyn.
Yr amser mae’n ei gymryd
Rydym yn edrych ar bob achos yn unigol, felly mae’r amser mae’n ei gymryd i ddatrys eich cwyn yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw hi - a pha mor hir mae’n cymryd i dderbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom. Bydd hefyd yn cymryd mwy o amser os na fyddwch chi neu’r busnes yn cytuno â’n hasesiad cychwynnol, ac yn dymuno i ombwdsmon wneud penderfyniad ffurfiol, terfynol.
Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ein hamserlenni cyffredinol – gan gynnwys pa mor hir y bydd cyn ein bod yn gallu eich hysbysu ein bod wedi derbyn eich cwyn – ar ein tudalen “faint o amser mae’n gymryd” page.
Effaith Covid-19 ar drafod cwynion
Mae effaith Covid-19, a’r mesurau iechyd cyhoeddus cysylltiedig, yn golygu bod rhaid i fusnesau ariannol weithio’n wahanol. Mae rheoleiddiwr y diwydiant, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), wedi nodi’i ddisgwyliadau ar gyfer trafod cwynion busnesau ariannol ar yr adeg hon, gan gynnwys yr hyn y dylai busnesau wneud mewn perthynas a thrafod a blaenoriaethu cwynion. Mae’n rhaid i ni, hefyd, weithio mewn modd gwahanol ar hyn o bryd. Gallwch ddarllen mwy am ein hamserlenni ar ein tudalen sy’n rhoi rhagor o fanylion am ba mor hir y mae’n cymryd i ni drafod y cwynion a welwn.
Cywiro pethau
Os byddwn yn penderfynu bod busnes wedi’ch trin yn annheg, byddwn yn dweud wrthynt am yr hyn y dylent ei wneud i gywiro pethau. Weithiau mae hyn yn syml yn achos o gael y busnes i gywiro eu camsyniad - er enghraifft, os byddant wedi canslo’ch polisi yswiriant yn annheg mae’n bosibl y byddwn yn dweud wrthynt am ei adfer.
Weithiau byddwn yn gofyn i’r busnes dalu iawndal i chi. Gall hyn fod oherwydd ein bod yn meddwl eich bod ar eich colled yn ariannol o ganlyniad i rywbeth a wnaethant yn anghywir. Neu oherwydd o bosibl fod camau gweithredu’r busnes wedi golygu eich bod wedi profi gofid ac anghyfleustra.
Darllenwch fwy am ein dull i gyfrifo iawndal.
Os ydych chi'n anhapus gyda’n gwasanaeth
Rydym eisiau rhoi'r lefel gorau posibl o wasanaeth gwsmeriaid i chi, beth bynnag fo canlyniad eich cwyn. Ond os nad ydych chi'n fodlon gyda’r modd yr ydym wedi delio â’ch cwyn, gallwch gwyno.
Sut rydym yn trafod ymddygiad afresymol
Rydym wedi ymrwymo y byddwn yn trin ein holl gwsmeriaid yn deg a darparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid. Fodd bynnag, rydym yn deall y gall adegau godi lle gall materion sy’n arwain at gŵyn fod yn llawn straen - neu gall cwsmeriaid beidio â chytuno â’n penderfyniad terfynol.
Ond mae ein staff bob amser yn haeddu cael eu trin â pharch. Felly, ni fyddwn yn caniatáu ymddygiad treisgar, amharchus na bygythiol tuag at ein staff. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwn yn penderfynu cymryd camau gweithredu ychwanegol. Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei ystyried fel ymddygiad afresymol a’r camau gweithredu y gallem eu cymryd ar ein polisi ymddygiad afresymol.