delwedd o daflen i ddefnyddwyr

fy stori - clip fideo

bodloni eich anghenion a siarad eich iaith

Mae ein cyhoeddiadau ar gael mewn Braille, print bras neu ar dâp sain. Galwch ni ar 020 7964 0766 e-bostiwch accessibility@financial-ombudsman.org.uk

Mae gwybodaeth ar gael hefyd mewn ystod o ieithoedd eraill.

Llinell gymorth FSA i ddefnyddwyr

Os ydych yn pryderu nad yw cwmni yn dilyn y rheolau, dylech gysylltu â llinell gymorth FSA i ddefnyddwyr ar 0845 606 1234.

eich cwyn chi a'r ombwdsmon

– ein taflen i ddefnyddwyr

Bwriedir i'r fersiwn gwe hwn o'n taflen i ddefnyddwyr, eich cwyn chi a'r ombwdsmon, gael ei ddarllen ar y sgrîn. Lle bo hynny yn briodol, mae'n ofynnol i fusnesau roi copi caled swyddogol o'r daflen hon (nid allbrint o'r dudalen hon) yn ystod y cam perthnasol yn y drefn cwynion. Gall defnyddwyr ein ffonio yn uniongyrchol hefyd i ofyn am daflen ar 0845 080 1800.

Mae manylion i fusnesau am:

  • y gofyniad i roi ein taflen ddefnyddwyr i gwsmeriaid a
  • sut i archebu cyflenwadau o'r daflen

yn ein nodyn briffio technegol, sy'n dweud wrth ddefnyddwyr am Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

am Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Os ydych chi wedi anghydweld â banc, cwmni yswiriant neu ffyrm ariannol, efallai y gall Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol helpu.

Ein gwaith ni yw setlo anghydfod rhwng busnesau ariannol a'u cwsmeriaid. Fe'n sefydlwyd gan y gyfraith i wneud hyn – fel arbenigwyr annibynnol – ac mae ein gwasanaeth am ddim i ddefnyddwyr.

Gallwn edrych ar gwynion am y rhan fwyaf o faterion ariannol gan gynnwys, er enghraifft:

  • bancio
  • yswiriant
  • morgeisi
  • pensiynau
  • cynilion a buddsoddiadau
  • cardiau credyd a chardiau siop
  • benthyciadau a chredyd
  • hur-bwrcas a gwystlwyr
  • cyngor ariannol
  • stociau, cyfranddaliadau, cwmnïau buddsoddi a bondiau.

Os nad ydych yn sicr a allwn helpu gyda'ch problem arbennig chi – cysylltwch â ni a gofynnwch. Byddwn yn falch o'ch cynghori.

Galwch ni ar 0845 080 1800.*

*Byddwn yn ddigon bodlon eich ffonio nôl, os ydych chi’n poeni am gost ein ffonio ni.

sut mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn helpu?

Rydym yn anelu at setlo anghydfod mor deg ac mor gyflym â phosibl. Mae dwy ochr i unrhyw anghydfod bob amser, felly byddwn yn edrych yn ofalus ar ddwy ochr y stori a phwyso a mesur y ffeithiau i gyd.

Efallai y byddwn yn meddwl bod y busnes yr ydych yn cwyno amdano wedi eich trin chi yn deg. Os felly, fe ddywedwn wrthych.

Gall hyn gynnwys dweud wrth y busnes am dalu iawndal o hyd at £100,000 i chi am eich colledion – ond mae’r mwyafrif o anghydfodau’n ymwneud â symiau llawer llai na hynny.

beth yw'r cam cyntaf wrth gwyno?

Os oes gennych broblem gyda chynnyrch neu wasanaeth ariannol, y peth gorau bob amser yw ceisio datrys pethau yn uniongyrchol gyda’r busnes o dan sylw i ddechrau. Rhowch siawns iddyn nhw unioni pethau.

Os ydych yn cael anhawster i gysylltu â'r busnes neu os ydych yn ansicr am unrhyw beth, rhowch wybod i ni. Fe eglurwn ni beth y dylech ei wneud nesaf.

Galwch ni ar 0845 080 1800.

pryd y gall gwasanaeth yr ombwdsmon ymwneud â'r mater?

Gallwn ddechrau edrych ar eich cwyn os:

  • yw'r busnes wedi anfon llythyr atoch gyda'i ymateb terfynol, ond rydych yn dal yn anhapus neu
  • mae'r busnes wedi cael wyth wythnos yn barod ond mae'n dal heb anfon ei ymateb terfynol atoch.

sut y gallaf gofrestru fy nghwyn gyda chi?

Byddwn angen rhai manylion gennych, i weld a allwn helpu. Gallwch ddweud wrthym am eich cwyn drwy ein ffonio ar 0845 080 1800. Yna mae'n bosibl y bydd angen i chi lenwi ein ffurflen cwynion. Mae hon yn rhoi eich manylion personol i ni a gwybodaeth am eich cwyn – gan gynnwys beth yr hoffech i'r busnes ei wneud i unioni pethau.

Os byddai'n well gennych, gallwch argraffu'r ffurflen oddi ar y wefan hon.

Pan fyddwch yn ein galw ni, efallai y gallwn lenwi rhywfaint o'r wybodaeth drosoch chi, dros y ffôn. Bydd angen i chi roi manylion byr am eich cwyn pan alwch, ond bydd o gymorth pe gallech ddweud wrthym am unrhyw rifau cyfrif neu bolisi perthnasol ac ati.

beth sy'n digwydd nesaf?

Os yw eich cwyn yn un y gallwn ymdrin â hi, byddwn yn dechrau fel arfer drwy weld a allwn eich helpu chi a'r busnes i ddatrys y mater yn anffurfiol.

Byddwn yn:

  • edrych ar eich ochr chi o'r stori
  • cysylltu â'r busnes i gael eu hochr nhw o'r stori
  • pwyso'r ffeithiau a
  • dweud wrthych chi a'r busnes beth yw ein barn.

Efallai y penderfynwn fod y busnes wedi eich trin chi yn deg ac nad ydych wedi dioddef o ganlyniad i'r hyn a wnaeth. Os felly, byddwn yn dweud wrthych pam y credwn hynny.

Weithiau rydym yn darganfod nad oes ateb sy'n amlwg yn gywir neu yn anghywir. Os felly, efallai y cynigiwn gyfaddawd i'ch helpu chi a'r busnes i ddatrys y mater.

Ond os ydych yn amlwg wedi dioddef oherwydd yr hyn mae'r busnes wedi ei wneud (neu ddim wedi ei wneud), fe ddywedwn wrth y busnes beth i'w wneud i unioni pethau.

beth os nad yw hyn yn dal i ddatrys y broblem?

Mewn llawer o achosion, bydd y dull anffurfiol hwn yn gymorth i setlo eich anghydfod. Os na fydd, mae'n bosibl y bydd angen i ni edrych ar bethau yn fwy ffurfiol. Gallai hyn olygu y bydd gennym fwy o gwestiynau i'w gofyn i chi a'r busnes. Gallwn hefyd ofyn am ddogfennau a gwybodaeth arall. Felly gallai gymryd peth amser cyn y gallwn ddatrys eich cwyn.

Ar gyfartaledd, gallwn setlo'r rhan fwyaf o achosion o anghydfod o fewn chwech i naw mis. A byddwn bob amser yn eich diweddaru fel y byddwch yn gwybod beth sy'n digwydd gyda'ch achos.

Gallwn ddatrys y rhan fwyaf o gwynion heb fod angen penderfyniad swyddogol gan yr ombwdsmon. Ond os oes angen penderfyniad ombwdsmon yn eich achos chi, mae'r penderfyniad hwnnw yn derfynol.

Nid oes raid i chi dderbyn ein penderfyniad. Gallwch fynd i'r llys yn lle hynny, os dymunwch. Ond ni allwn roi cyngor cyfreithiol i chi am unrhyw ofynion neu gyfyngiadau gan y llys (er enghraifft, terfynau amser).

a oes terfynau amser ar gyfer dod ag anghydfod at wasanaeth yr ombwdsmon?

Oes. Bydd angen i chi gyfeirio eich anghydfod atom ni o fewn chwe mis o ddyddiad llythyr yr "ymateb terfynol" a gewch oddi wrth y busnes yr ydych yn cwyno amdano.

Gall terfynau amser eraill fod yn berthnasol os:

  • digwyddodd yr hyn yr ydych yn cwyno amdano beth amser yn ôl a/neu
  • ydych wedi ei gadael hi yn rhy hir i gwyno ar ôl i chi wybod (neu y dylech fod wedi gwybod) fod problem.

Byddwn yn dweud wrthych am unrhyw reolau neu gyfyngiadau a all fod yn berthnasol yn eich achos.

a all rhywun gwyno ar fy rhan?

Gall unrhyw un gwyno ar eich rhan – er enghraifft, aelod o'ch teulu, ffrind neu Cyngor ar Bopeth. Ond bydd arnom angen eich awdurdod ysgrifenedig i hyn.

a oes arnaf angen cymorth arbenigol i ddod ag anghydfod at wasanaeth yr ombwdsmon?

Nac oes. Ni ddylai fod arnoch angen unrhyw gymorth arbenigol – er enghraifft, gan gyfreithiwr neu gwmni trin hawliadau. Byddwn yn edrych ar ffeithiau'r achos – nid ar ba mor dda y cyflwynwch eich cwyn. Ac mae'n well gennym glywed oddi wrthych yn eich geiriau eich hun.

Os byddwch yn cyflogi rhywun i gyflwyno eich achos drosoch, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu eu costau. Gallai hyn olygu y bydd yn rhaid i chi dalu iddyn nhw o unrhyw iawndal sy'n ddyledus i chi.

a yw dod ag anghydfod at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol fel mynd i'r llys?

Nid yw gwasanaeth yr ombwdsmon mor ffurfiol â'r llysoedd. Fel arfer byddwn yn penderfynu ar achosion yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwch chi a'r busnes yr ydych yn cwyno amdano, yn ysgrifenedig a thros y ffôn. Rydym yn setlo pob anghydfod bron heb fod angen cyfarfodydd wyneb yn wyneb (neu "wrandawiadau") gyda'r ddwy ochr.

Mae'n bosibl na fydd ein gwasanaeth ni’n addas i chi os yw’ch anghydfod yn cynnwys mwy na £100,000. Mae’n bosibl hefyd y byddai’n well gennych fynd â'ch anghydfod i'r llys os hoffech chi archwilio'r papurau i gyd yn bersonol, gofyn eich cwestiynau eich hun, neu gael gwrandawiad fel rhan o'r drefn.

Ni fyddwn fel arfer yn trin achos sydd wedi ei ystyried gan lys yn barod (neu lle mae achos llys i fod i ddigwydd).

a all gwasanaeth yr ombwdsmon helpu gyda chwynion gan fusnesau lleol?

Gall. Fel arfer gallwn edrych ar gwynion oddi wrth fusnesau bychain sydd â throsiant blynyddol o lai na £1 miliwn.

a all gwasanaeth yr ombwdsmon gosbi neu ddirwyo busnesau?

Na all. Ein gwaith ni yw helpu i setlo achosion o anghydfod unigol rhwng busnesau sy'n cynnig gwasanaethau ariannol a'u cwsmeriaid.

Mae ein gwasanaeth yn gyfrinachol. Nid ydym yn cyhoeddi enwau'r busnesau na'r defnyddwyr yr ymdriniwn â'u cwynion.

Nid ydym yn ysgrifennu'r rheolau ar gyfer busnesau. Ac nid ydym yn monitro (nac yn "rheoleiddio") busnesau i ofalu eu bod yn dilyn y rheolau. Gwaith rheoleiddwyr, fel yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) a'r Swyddfa Masnachu Teg yw hyn.

Canllaw cyffredinol yn unig yw'r daflen hon. Gall y rheolau y mae'n rhaid i ni eu dilyn fod yn gymhleth iawn.

Os byddwch yn gofyn i ni edrych i mewn i'ch cwyn, byddwn yn egluro unrhyw reolau neu gyfyngiadau arbennig a all fod yn berthnasol yn eich achos unigol chi. Byddwn bob amser yn rhoi'r cyfle i chi holi am unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall nac yn cytuno ag ef.