Image: calculator

fy stori - clip fideo

sut wnaeth y gwasanaeth ombwdsmon fy helpu ...

gyda hunllef fy mhensiwn

Yn ariannol, byddai pethau'n anodd dros ben erbyn hyn pe na bawn wedi gofyn i'r ombwdsmon edrych ar bethau ar ein rhan. Roeddwn wedi cael fy niswyddo a gofynnais i gwmni o ymgynghorwyr ariannol sut allwn i wneud y gorau o'm hincwm cyfyngedig.

Roeddwn wedi bod yn talu i mewn i gynllun pensiwn – ond nid oeddwn yn disgwyl ymddeol am ryw 10 mlynedd. Dywedodd yr ymgynghorydd y dylwn drosglwyddo fy nghronfa bensiwn – a swm sylweddol o'm cynilion – i gynllun a fyddai'n rhoi incwm da i mi, yn ôl y dywedodd. Roedd yn ymddangos yn iawn am ychydig – ond yna dechreuais dderbyn llai a llai. Roeddwn yn cael anhawster i gael dau ben llinyn ynghyd.

Cwynais i'r ymgynghorydd ond teimlwn fel be bawn yn siarad â'r wal. Yna ymyrrodd y gwasanaeth ombwdsmon. Buont yn ymchwilio i bopeth yn fanwl. Dywedon nhw ei bod yn glir hyd yn oed yn nodiadau'r ymgynghorydd ei hun nad oeddwn mewn sefyllfa i fentro gyda fy arian. Felly roeddwn wedi cael cyngor gwael o'r man cychwyn. Dywedon nhw wrth yr ymgynghorydd beth i'w wneud er mwyn unioni pethau. Mae'n biti na fyddai rhywun wedi esbonio pethau mor glir i mi o'r cychwyn cyntaf. Yna ni fyddai'r angen am yr ombwdsmon wedi codi.

Mr J, Manceinion