Eisteddfod
Am y tro cyntaf, bydd gwasanaeth yr ombwdsmon yn cymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mlaenau Gwent (31 Gorffennaf – 7 Awst 2010).
Bydd siaradwyr Cymraeg a Saesneg wrth law ar stondin yr ombwdsmon i helpu pobl sydd â phroblemau na allen nhw eu datrys gyda’u banciau, cwmnïau yswiriant neu gwmnïau ariannol.
Mae gwasanaeth yr ombwdsmon hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â nifer fawr o asiantaethau cyngor defnyddwyr ledled Cymru i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i weithwyr cynghori’r llinell flaen.
Bydd yr ombwdsmon yn gweithio gyda Chyngor ar Bopeth yn Abertawe 28 Gorffennaf 2010 ac yn cynnal clinig cwynion galw i mewn, wyneb yn wyneb, am ddim i bobl sydd angen cymorth i ddatrys problemau gyda banciau, cwmnïau yswiriant neu gwmnïau ariannol.
Mae lle’n brin, felly cysylltwch yn gynnar! I wneud apwyntiad, ffoniwch: 0844 826 9328
Abertawe – Cyngor ar Bopeth – 28 Gorffennaf 2010
- Ble:
Llys Glas (rhan o Orsaf Ganol yr Heddlu gynt), Pleasant Street, Abertawe, SA1 5DS - Fformat:
clinig cwynion galw i mewn yn y prynhawn am ddim i ddefnyddwyr
Abertawe – Cyngor ar Bopeth – 29 Gorffennaf 2010
- Ble:
Cyngor Dinas Abertawe, Neuadd y Sir, Abertawe, SA1 4PE
- Fformat:
diwrnod hyfforddiant ar gyfer ymgynghorwyr defnyddwyr
Y llynedd, gofynnodd mwy na 45,000 o ddefnyddwyr ledled Cymru am gymorth yr ombwdsmon i ddatrys anghydfod ariannol. Fodd bynnag, dengys ymchwil fod pobl yng Nghymru yn dal yn llai ymwybodol o’u hawliau fel defnyddiwr – gan gynnwys eu hawl i ddod â chwyn at wasanaeth yr ombwdsmon.

